Sunday, November 20, 2005

Noswaith Unig ar y Paith...

Henffych ers tro byd, Orllewinwyr mwyn.

Bu gigio ers ein ymweliad diwethaf a'r blog. Tafarn y Fic yn orlawn ac yn jeifio, maes yr eisteddfod yn wag ac yn ffwndro, heblaw am ymweliad hynod amserol gan Twm Morys yn ystod fersiwn rolicing o Tren Bach y Sgwarnogod. Difyr fu'r perfformiad acwstig yng Ngholeg Meirion Dwyfor - Twm Colt yn cadw'r sioe hefo'i gilydd, a ysgwytwyd clwb Blu ym Mhwllheli i'w seiliau ar yr un noson.

Gall recordio albym fod yn opsiwn gwerth ei chysidro, ond fe wyddoch sut y mae hefo'r gwartheg.

Thursday, July 21, 2005

Howdy, a Chroeso

Howdy, a chroeso i flog Cowbois Rhos Botwnnog. Mynediad mewn carpiau lledr yn unig.

---

Y COWBOIS:

Twm Colt - llais, gitars, bass, mandolin, harmonica, synth

Edgar Sgarled - llais, gitars, bass, tamborin

Dei Morlo - llais, drymiau


CERDDORION GWADD:

Wailin' Math Wiliam - Tin Whistle (Dinas Dinlle)

Dee-lyth Badeurre - Synth (Dinas Dinlle)

Mari Glyn - Kazoo (Dinas Dinlle)

Sean Blean - Gitar (Dinas Dinlle)

---

GIGS:

22/7/05 - Tafarn y Fic, Llithfaen. Fe'ch gwelwn yno.

7/5/05 - Bryn Mor, Dinas Dinlle. Fe'm gwelom yno.

--

Dymunwn hoedown hapus i chwi oll. Yipee.